Delwedd pennawd Newyddion
Tudalen flaen
English
Criw teledu
Logo LlGC

Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

"C'Mon Midffild? This is a friend"

Mae rhai dyddiadau yn aros yn y cof - penblwyddi, penblwydd priodas ag ati. Yr oedd yr 18fed o Dachwedd 1988 yn ddiwrnod arloesol i blant Cymru yr wythdegau, fy nghenedlaeth i. Mae adlais chwerthin y noson honno dal i'w glywed heddiw. Dyddiad ddim yn canu cloch? Ar noson hon, darlledwyd C'Mon Midffild! ar S4C am y tro cyntaf, y rhaglen gomedi orau i ddyfod o'n cenedl bach.

Dechreuodd y gomedi, a chafodd ei ysgrifennu gan Mei Jones ag Alun Ffred, fel rhaglen ar Radio Cymru. Darlledwyd tair cyfres ohonni cyn ei throsglwyddo i fyd y sgrin, dan adain Nant. C'Mon midffild! oedd rhaglen deledu fy mhlentyndod.

Er fy mod bellach yn fy ugainiau, mae lle carn i'r gyfres a'i chymeriadau yn fy nghalon. Mae'r comedi yn gweithio ar ddwy lefel, lefel plentyn ac oedolyn. Dwi dal i gyfogi wrth weld Mr Picton yn bwyta brechdannau tiwna Wali, yn llawn blewach cath (Eira Mawr, Eira Man)- ac mewn dagrau o chwerthin wrth wylio pennod Cân di bennill fwyn (fy hoff rifyn- penod Glyn Ffidych). Yr oedd y gyfres yn bwnc llosg tra yn y Brifysgol- pa Sandra oedd orau? A daeth C'Mon Midffild! hyd yn oed yn rhan o'n bratiaith - "Paid bod yn Jean" = Blin.

Gyda'r dofodiad y DVD's mae C'Mon Midffild! dal i'w fwynhau gan gynhedlaeth newydd o blant Cymru.

Bydd cyfle i drafod pwysigrwydd y gyfres gyda Mei Jones ar y 8fed o Fawrth 2005 yn y DRWM. Bydd ef, a'i ffrind agos, Wali Thomas, yn edrych yn ol ar rai o uchafbwyntiau tîm Bryncoch ac yn barod i ateb eich cwestiynnau chi.

Croeso i bawb, o blant i oedolion ar rhai ifanc o galon.

Nodiadau:
C'Mon Midffild!
Nos Fawrth - Mawrth 8fed 7.30pm
Swyddfa Docynnau: 01970 632 548
Tocynnau £3.50

Cyswllt y Wasg: Llinos Medi Jones lmj@llgc.org.uk 01970 632 534