
Teledu a Fideo
Teledu
Mae'r Archif wedi bod yn recordio rhaglenni teledu oddi-ar-yr-awyr ers dechrau'r 80au ac wedi bod yn archif benodedig ar gyfer recordio darllediadau teledu oddi-ar-yr-awyr ers 1991. Ers hynny rydym wedi recordio miloedd o raglenni teledu analog sy'n ymwneud â Chymru - yn y Gymraeg a'r Saesneg:
Trawsdoriad o raglenni S4C - yn cynnwys rhaglenni newyddion a dogfen, cyfresi drama ac operâu sebon
Rhaglenni Saesneg a wnaethpwyd yng Nghymru - yn cynnwys rhaglenni newyddion fel Wales Today, cyfresi dogfen a dramâu fel Tiger Bay a Belonging
Unrhyw raglenni eraill a ddarlledir ar sianeli analog Prydain a chanddynt gyswllt â Chymru.
Mae'r casgliad o recordiadau teledu oddi-ar-yr-awyr yn enfawr ac amrywiol ac yn ddefnyddiol i ymchwilwyr o bob math.
Mae digon yn y casgliad i apelio at rai sy'n ymddiddori ym myd y cyfryngau, wrth gwrs, ond mae'r rhaglenni dogfen, newyddion, hanes ac adloniant sydd yn y casgliad hefyd o ddiddordeb ehangach, waeth beth fo maes eich diddordeb - llenyddiaeth, hanes, gwleidyddiaeth, chwaraeon ...
Mae'r Archif yn gartref i log gorsaf deledu S4C ac felly mae copi o holl allbwn S4C yn ein gofal.
Mae AGSSC, ar y cyd â Chanolfan Mercator a Sefydliad Thompson, yn gyfrifol am Brosiect Monitro S4C. Cysyllter ag Iwan Jenkins ar 01970 632557 am ragor o wybodaeth.


